2 Kings 5:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond efe a aeth i mewn, ac a safodd o flaen ei feistr. Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef, O ba le y daethost ti, Gehasi? Dywedodd yntau, Nid aeth dy was nac yma na thraw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan aeth Gehasi at ei feistr, dyma Eliseus yn gofyn iddo, “Wyt ti wedi bod i rywle Gehasi?” A dyma fe'n ateb, “Na, dw i ddim wedi bod i unman yn arbennig.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt fynd, aeth yntau i mewn i weini ar ei feistr, a dywedodd Eliseus wrtho, "Ple buost ti, Gehasi?" Atebodd, "Ni fu dy was yn unman."