2 Kings 5:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a ddywedodd wrth ei meistres, O na byddai fy arglwydd o flaen y proffwyd sydd yn Samaria! canys efe a'i hiachâi ef o'i wahanglwyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma hi'n dweud wrth ei meistres, “Dyna biti na fyddai'r meistr yn gallu mynd i weld y proffwyd sydd yn Samaria. Gallai e ei wella.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrth ei meistres, "Gresyn na fyddai fy meistr yn gweld y proffwyd sydd yn Samaria; byddai ef yn ei wella o'i wahanglwyf."