2 Kings 5:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, Ai DUW ydwyf fi, i farwhau, ac i fywhau, pan anfonai efe ataf fi i iacháu gŵr o'i wahanglwyf? gwybyddwch gan hynny, atolwg, a gwelwch mai ceisio achos y mae efe i'm herbyn i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl darllen y llythyr dyma frenin Israel yn rhwygo ei ddillad a gweiddi, “Ai Duw ydw i? Oes gen i awdurdod dros fywyd a marwolaeth, neu awdurdod i iacháu y dyn yma mae e wedi ei anfon ata i? Gwyliwch chi, chwilio am esgus i ymosod arnon ni mae e!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, rhwygodd ei ddillad a dweud, "Ai Duw wyf fi i beri marw neu fyw, bod hwn yn anfon ataf i wella dyn o'i wahanglwyf? Sylwch ar hyn, yn awr, a gwelwch mai chwilio am achos yn f'erbyn y mae."