2 Kings 6:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chalon brenin Syria a gythryblwyd herwydd y peth hyn; ac efe a alwodd ar ei weision, ac a ddywedodd wrthynt, Oni fynegwch i mi pwy ohonom ni sydd gyda brenin Israel?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd brenin Syria wedi cynhyrfu o achos hyn. A dyma fe'n galw ei swyddogion at ei gilydd, a dweud, “Dwedwch wrtho i, pa un ohonoch chi sy'n helpu brenin Israel?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cynhyrfodd brenin Syria am hyn a galwodd ei weision ato a dweud wrthynt, "Oni ddywedwch wrthyf pwy ohonom sydd o blaid brenin Israel?"