2 Kings 6:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan gododd gweinidog gŵr DUW yn fore, a myned allan, wele lu yn amgylchynu y ddinas, â meirch ac â cherbydau. A'i was a ddywedodd wrtho ef, Aha, fy meistr! pa fodd y gwnawn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn gynnar y bore wedyn dyma was Eliseus yn codi a mynd allan. A dyna lle roedd byddin Syria gyda cheffylau a cherbydau wedi amgylchynu'r dre. A dyma'r bachgen yn dweud wrth Eliseus, “O na! Feistr, be wnawn ni?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan gododd gwas gu373?r Duw yn y bore bach, a mynd allan, dyna lle'r oedd byddin a meirch a cherbydau o amgylch y dref, ac meddai, "O feistr, beth a wnawn ni?"