2 Kings 6:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Eliseus a weddïodd, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD, agor, atolwg, ei lygaid ef, fel y gwelo. A'r ARGLWYDD a agorodd lygaid y llanc; ac efe a edrychodd: ac wele y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o amgylch Eliseus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, agor ei lygaid iddo weld.” A dyma'r ARGLWYDD yn agor llygaid y bachgen, ac roedd e'n gweld fod y bryn yn llawn ceffylau a cherbydau fel fflamau tân o gwmpas Eliseus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gweddodd Eliseus, "ARGLWYDD, agor ei lygaid, iddo weld." Ac agorodd yr ARGLWYDD lygaid y llanc, ac yna fe welodd y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o gwmpas Eliseus.