2 Kings 6:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaethant hwy i Samaria, Eliseus a ddywedodd, O ARGLWYDD, agor lygaid y rhai hyn, fel y gwelont. A'r ARGLWYDD a agorodd eu llygaid hwynt; a hwy a welsant: ac wele, yng nghanol Samaria yr oeddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl iddyn nhw gyrraedd, dyma Eliseus yn gweddïo eto, “ARGLWYDD, agor eu llygaid nhw iddyn nhw allu gweld.” Dyma'r ARGLWYDD yn agor eu llygaid, ac roedden nhw'n gweld eu bod yng nghanol tref Samaria.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt gyrraedd Samaria, dywedodd Eliseus, "ARGLWYDD, agor lygaid y bobl hyn, iddynt weld." Pan agorodd yr ARGLWYDD eu llygaid a hwythau'n gweld, yno yng nghanol Samaria yr oeddent.