2 Kings 6:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a arlwyodd iddynt hwy arlwy fawr: a hwy a fwytasant ac a yfasant; ac efe a'u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant at eu harglwydd. Felly byddinoedd Syria ni chwanegasant ddyfod mwyach i wlad Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r brenin yn trefnu gwledd fawr iddyn nhw, a dyma nhw'n bwyta ac yn yfed. Wedyn dyma nhw'n mynd yn ôl at eu meistr. O hynny ymlaen dyma fyddin Syria yn stopio ymosod ar wlad Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Arlwyodd wledd fawr iddynt, ac wedi iddynt fwyta ac yfed, gollyngodd hwy. Aethant at eu meistr, ac ni ddaeth byddinoedd Syria rhagor i dir Israel.