2 Kings 6:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd newyn mawr yn Samaria: ac wele, yr oeddynt hwy yn gwarchae arni hi, nes bod pen asyn er pedwar ugain sicl o arian, a phedwaredd ran cab o dom colomennod er pum sicl o arian.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O ganlyniad doedd dim bwyd yn Samaria. Roedd y sefyllfa mor ddrwg nes bod pen asyn yn costio wyth deg o ddarnau arian, a powlen fach o dail colomennod yn costio pum darn arian.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna bu newyn mawr yn Samaria, a'r gwarchae mor dynn nes bod pen asyn yn costio pedwar ugain o siclau arian, a chwarter pwys o dail colomen bum sicl.