2 Kings 6:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond Eliseus oedd yn eistedd yn ei dŷ, a'r henuriaid yn eistedd gydag ef. A'r brenin a anfonodd ŵr o'i flaen: ond cyn dyfod y gennad ato ef, efe a ddywedodd wrth yr henuriaid, A welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymryd ymaith fy mhen i? Edrychwch pan ddêl y gennad i mewn, caewch y drws, a deliwch ef wrth y drws: onid yw trwst traed ei arglwydd ar ei ôl ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Eliseus yn digwydd bod yn ei dŷ, ag arweinwyr Samaria o'i gwmpas. Roedd y brenin wedi anfon un o'i ddynion i'w arestio. Ond cyn iddo gyrraedd roedd Eliseus wedi dweud wrth yr arweinwyr o'i gwmpas, “Ydych chi'n gwybod beth? Mae'r cyw llofrudd yna wedi anfon dyn i dorri fy mhen i i ffwrdd. Pan fydd e'n cyrraedd, cauwch y drws a'i rwystro rhag dod i mewn. Dw i'n siŵr y bydd y brenin ei hun ddim yn bell tu ôl iddo!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gartref yr oedd Eliseus, a'r henuriaid yn eistedd gydag ef. Anfonodd y brenin u373?r o'i lys, ond cyn i'r negesydd gyrraedd, yr oedd Eliseus wedi dweud wrth yr henuriaid, "A welwch chwi fod y cyw llofrudd hwn wedi anfon rhywun i dorri fy mhen? Edrychwch; pan fydd y negesydd yn cyrraedd, caewch y drws a daliwch y drws yn ei erbyn. Onid wyf yn clywed su373?n traed ei feistr yn ei ddilyn?"