2 Kings 7:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Eliseus a ddywedodd, Gwrandewch air yr ARGLWYDD: Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Ynghylch y pryd hwn yfory y gwerthir sat o beilliaid er sicl, a dau sat o haidd er sicl, ym mhorth Samaria.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Eliseus yn ateb, “Gwranda ar neges yr ARGLWYDD. ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Yr adeg yma fory, yn y farchnad wrth giât Samaria, bydd un darn arian yn ddigon i brynu sachaid o flawd mân, neu ddwy lond sach o haidd!’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd Eliseus, "Gwrando air yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Tua'r adeg yma yfory gwerthir ym mhorth Samaria bwn o flawd am sicl, a dau bwn o haidd am sicl."