2 Kings 7:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly hwy a ddaethant, ac a waeddasant ar borthor y ddinas; a hwy a fynegasant iddynt, gan ddywedyd, Daethom i wersyll y Syriaid, ac wele, nid oedd yno neb, na llais dyn, ond y meirch yn rhwym, a'r asynnod yn rhwym, a'r pebyll megis yr oeddynt o'r blaen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Samaria a galw ar y wylwyr y giatiau, “Dŷn ni wedi bod i wersyll byddin Syria, a doedd yna neb yno o gwbl. Glywon ni'r un siw na miw. Ond roedd y ceffylau a'r asynnod yno wedi eu clymu, a'r pebyll yn dal i sefyll.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethant a galw ar borthorion y ddinas a dweud, "Buom yng ngwersyll y Syriaid, ond nid oedd unrhyw un yno, na sn am neb dim ond ambell geffyl ac asyn wedi ei rwymo, a'r pebyll wedi eu gadael fel yr oeddent."