2 Kings 7:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin a gyfododd liw nos, ac a ddywedodd wrth ei weision, Mynegaf yn awr i chwi yr hyn a wnaeth y Syriaid i ni. Gwyddent mai newynog oeddem ni; am hynny yr aethant ymaith o'r gwersyll i ymguddio yn y maes, gan ddywedyd, Pan ddelont hwy allan o'r ddinas, ni a'u daliwn hwynt yn fyw, ac a awn i mewn i'r ddinas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cododd y brenin o'i wely a dweud wrth ei swyddogion, “Ddweda i wrthoch chi beth mae Syria'n ei wneud. Maen nhw'n gwybod fod newyn yma, ac maen nhw wedi gadael y gwersyll a mynd i guddio i gefn gwlad. Maen nhw'n disgwyl i ni fynd allan i chwilio am fwyd, a wedyn byddan nhw'n ein dal ni, ac yn dod i mewn i'r ddinas.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cododd y brenin gefn nos, ac meddai wrth ei weision, "Mi ddywedaf wrthych beth y mae'r Syriaid yn ei wneud i ni; y maent yn gwybod bod newyn arnom, ac y maent wedi mynd allan o'r gwersyll i guddio, gan feddwl, 'Pan ddnt allan o'r ddinas, daliwn hwy'n fyw, a mynd i mewn i'r ddinas.'"