2 Kings 7:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin a osododd y tywysog yr oedd efe yn pwyso ar ei law i wylied ar y porth: a'r bobl a'i mathrasant ef yn y porth, ac efe fu farw, megis y llefarasai gŵr DUW, yr hwn a ddywedasai hynny pan ddaeth y brenin i waered ato ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y brenin wedi anfon ei brif gynorthwywr i reoli pethau wrth giât y ddinas. Ond wrth i'r dyrfa ruthro allan, cafodd ei sathru dan draed a bu farw. Roedd hyn hefyd wedi digwydd yn union fel roedd Eliseus, proffwyd yr ARGLWYDD, wedi dweud pan oedd y brenin wedi ceisio ei arestio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y brenin wedi penodi'r swyddog y pwysai ar ei fraich i arolygu'r porth; ond mathrodd y bobl ef yn y porth, a bu farw, fel yr oedd gu373?r Duw wedi dweud pan aeth y brenin ato.