2 Kings 7:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna tywysog yr oedd y brenin yn pwyso ar ei law a atebodd ŵr DUW, ac a ddywedodd, Wele, pe gwnelai yr ARGLWYDD ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn? Dywedodd yntau, Wele, ti a'i gweli â'th lygaid, ond ni fwytei ohono.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma swyddog agosa'r brenin, ei brif gynorthwywr, yn ateb proffwyd Duw. “Hyd yn oed petai'r ARGLWYDD yn agor llifddorau'r awyr iddi lawio ar y ddaear, allai hynny byth digwydd!” Ond dyma Eliseus ateb, “Cei weld y peth â dy lygaid dy hun, ond gei di ddim bwyta dim ohono.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebwyd Eliseus gan y swyddog yr oedd y brenin yn pwyso ar ei fraich: "Hyd yn oed pe bai'r ARGLWYDD yn agor ffenestri yn y nefoedd, a allai hyn ddigwydd?" Meddai yntau, "Cei ei weld 'th lygaid dy hun, ond ni chei fwyta ohono."