2 Kings 7:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os dywedwn ni, Awn i mewn i'r ddinas, newyn sydd yn y ddinas, a ni a fyddwn feirw yno; ac os trigwn yma, ni a fyddwn feirw hefyd. Am hynny deuwch yn awr, ac awn i wersyll y Syriaid: o chadwant ni yn fyw, byw fyddwn; ac os lladdant ni, byddwn feirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os awn ni i mewn i'r ddinas, byddwn ni'n marw, achos does yna ddim bwyd yno. Os arhoswn ni yma, dŷn ni'n mynd i farw hefyd. Felly dewch i ni fynd drosodd at fyddin Syria. Falle y gwnân nhw'n lladd ni, ond mae yna bosibilrwydd yn gwnân nhw adael i ni fyw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pe byddem yn penderfynu mynd i'r ddinas, byddem yn marw yno am fod newyn yn y ddinas; a marw y byddwn os arhoswn yma. Dewch, mentrwn i wersyll Syria. Os arbedant ni, cawn fyw; os lladdant ni, byddwn farw."