2 Kings 8:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Eliseus a lefarodd wrth y wraig y bywhasai efe ei mab, gan ddywedyd, Cyfod, a dos, ti a'th dylwyth, ac ymdeithia lle y gellych ymdeithio: canys yr ARGLWYDD a alwodd am newyn, a hwnnw a ddaw ar y wlad saith mlynedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Eliseus wedi dweud wrth y wraig y daeth e a'i mab hi yn ôl yn fyw, “Dylet ti a dy deulu symud i fyw i rywle arall dros dro. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud fod newyn yn mynd i daro Israel am saith mlynedd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Eliseus wedi dweud wrth y wraig yr adfywiodd ei mab, "Muda oddi yma, ti a'th deulu, a dos i fyw lle medri, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi newyn, a bydd yn y wlad am saith mlynedd."