2 Kings 8:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Hasael a ddywedodd, Paham y mae fy arglwydd yn wylo? Dywedodd yntau, Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel: eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân, a'u gwŷr ieuainc a leddi â'r cleddyf, a'u plant a bwyi, a'u gwragedd beichiogion a rwygi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Hasael yn gofyn iddo, “Pam wyt ti'n crïo, syr?” A dyma Eliseus yn ateb, “Am mod i'n gwybod y niwed wyt ti'n mynd i'w wneud i bobl Israel. Ti'n mynd i losgi'n trefi ni a lladd ein dynion ifanc yn y rhyfel. Byddi'n curo'n plant bach i farwolaeth, ac yn rhwygo'r gwragedd beichiog yn agored.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnodd Hasael, "Pam y mae f'arglwydd yn wylo?" Atebodd, "Am fy mod yn gwybod maint y niwed a wnei i'r Israeliaid: bwrw tn i'w caerau a lladd eu hieuenctid 'r cleddyf, mathru'r plant bach a rhwygo'r beichiog."