2 Kings 8:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly efe a aeth ymaith oddi wrth Eliseus, ac a ddaeth at ei arglwydd; yr hwn a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt ti? Ac efe a atebodd, Efe a ddywedodd wrthyf, y byddit ti byw yn ddiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n gadael Eliseus a mynd yn ôl at ei feistr. Pan ofynnodd hwnnw iddo, “Beth ddwedodd Eliseus wrthot ti?” Dyma fe'n ateb, “Dwedodd dy fod ti'n bendant yn mynd i wella.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymadawodd ag Eliseus, a phan ddaeth at ei feistr, gofynnodd hwnnw iddo, "Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt?" Atebodd yntau, "Dweud wrthyf y byddi'n sicr o wella."