2 Kings 8:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Joram a aeth trosodd i Sair, a'r holl gerbydau gydag ef; ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau: a'r bobl a ffodd i'w pebyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Jehoram yn croesi i Sair gyda'i gerbydau rhyfel. Roedd byddin Edom wedi ei amgylchynu. Dyma fe'n ymosod arnyn nhw ganol nos, ond colli'r frwydr wnaeth e, a dyma'i fyddin yn ffoi adre.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Croesodd Jehoram i Sair a'i holl gerbydau gydag ef; cododd liw nos ac ymosododd ef a'i gerbydwyr ar yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu, ond ffodd y fyddin adref.