2 Kings 8:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mab dwy flwydd ar hugain oedd Ahaseia pan aeth efe yn frenin; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia, merch Omri brenin Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Ahaseia yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin ar Jwda, a bu'n frenin am flwyddyn. Ei fam oedd Athaleia, wyres Omri, brenin Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dwy ar hugain oed oedd Ahaseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am flwyddyn. Athaleia oedd enw ei fam, wyres i Omri brenin Israel.