2 Kings 8:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Joram y brenin a ddychwelodd i Jesreel i ymiacháu o'r briwiau a roesai y Syriaid iddo ef yn Rama, wrth ymladd ohono ef yn erbyn Hasael brenin Syria: ac Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Joram mab Ahab yn Jesreel; canys claf ydoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac aeth yn ôl i Jesreel i geisio gwella o'i glwyfau. Aeth Ahaseia, brenin Jwda, yno i ymweld ag e, achos roedd e'n wael iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ciliodd y Brenin Joram i Jesreel i geisio gwellhad o'r clwyfau a gafodd gan y Syriaid yn Rama yn y frwydr yn erbyn Hasael brenin Syria. A daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, i edrych am Joram fab Ahab yn Jesreel am ei fod yn glaf.