2 Kings 8:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd efe yn mynegi i'r brenin y modd y bywhasai efe y marw, yna wele y wraig y bywhasai efe ei mab yn gweiddi ar y brenin am ei thŷ, ac am ei thir. A Gehasi a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, dyma'r wraig, a dyma ei mab yr hwn a ddarfu i Eliseus ei fywhau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A tra roedd Gehasi yn adrodd hanes Eliseus yn dod â'r bachgen marw yn ôl yn fyw, dyma'r wraig (sef mam y bachgen) yn cyrraedd i ofyn am ei thŷ a'i thir. A dyma Gehasi'n dweud, “Syr, fy mrenin, hon ydy'r union wraig roeddwn i'n sôn amdani; ei mab hi wnaeth Eliseus ei godi yn ôl yn fyw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fel yr oedd Gehasi'n adrodd wrth y brenin amdano'n adfywio un oedd wedi marw, dyna'r wraig yr adfywiodd ei mab yn dod i erfyn ar y brenin am ei thu375? a'i thir. Ac meddai Gehasi, "F'arglwydd frenin, hon yw'r wraig, a dyma'r mab a adfywiodd Eliseus."