2 Kings 9:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jehu a aeth allan at weision ei arglwydd, a dywedwyd wrtho ef, A yw pob peth yn dda? paham y daeth yr ynfyd hwn atat ti? Dywedodd yntau wrthynt, Chwi a adwaenoch y gŵr, a'i ymadroddion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan aeth Jehw allan at swyddogion eraill ei feistr, dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy popeth yn iawn? Pam wnaeth yr idiot yna ddod i dy weld di?” A dyma fe'n ateb, “O, dych chi'n gwybod am y math yna o foi a'i rwdlan.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth Jehu allan at weision eraill ei feistr, holodd un, "A yw popeth yn iawn? Pam y daeth yr ynfyd yna atat?" Atebodd yntau, "Gwyddoch am y dyn a'i siarad."