2 Kings 9:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a frysiasant, ac a gymerasant bob un ei wisg, ac a'i gosodasant dano ef ar ben uchaf y grisiau, ac a ganasant mewn utgorn, ac a ddywedasant, Jehu sydd frenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Heb oedi dim, dyma pob un ohonyn nhw yn gafael yn ei glogyn a'i roi dan draed Jehw ar ben y grisiau. Wedyn dyma'r corn hwrdd yn cael ei ganu, a pawb yn gweiddi, “Jehw ydy'r brenin!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cipiodd pob un ddilledyn a'i roi dano ar ben y grisiau, a chwythu utgorn a dweud, "Jehu sydd frenin!"