2 Kings 9:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond Joram y brenin a ddychwelasai i ymiacháu i Jesreel, o'r archollion â'r rhai yr archollasai y Syriaid ef wrth ymladd ohono yn erbyn Hasael brenin Syria.) A dywedodd Jehu, Os mynnwch chwi, nac eled un dihangol o'r ddinas i fyned i fynegi i Jesreel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd e wedi cael ei anafu, ac wedi mynd yn ôl i Jesreel i wella o'i glwyfau.) A dyma Jehw yn dweud wrth ei ddilynwyr, “Os ydych chi wir ar fy ochr i, peidiwch gadael i neb ddianc o'r ddinas i'w rhybuddio nhw yn Jesreel.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond yr oedd Joram wedi dychwelyd adref i Jesreel i wella o'r clwyfau a gafodd gan y Syriaid wrth ymladd Hasael brenin Syria. A dywedodd Jehu, "Os dyma'ch teimlad, peidiwch gadael i neb ddianc o'r ddinas i yngan gair yn Jesreel."