2 Kings 9:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly Jehu a farchogodd mewn cerbyd, ac a aeth i Jesreel; canys Joram oedd yn gorwedd yno. Ac Ahaseia brenin Jwda a ddaethai i waered i ymweled â Joram.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Jehw yn mynd yn ei gerbyd i Jesreel, lle roedd Joram yn gorwedd yn wael. (Dyna hefyd pryd roedd Ahaseia, brenin Jwda, wedi mynd i ymweld â Joram.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Jehu yn ei gerbyd am Jesreel, gan fod Joram yn orweiddiog yno. Ac yr oedd Ahaseia brenin Jwda wedi dod i edrych am Joram.

Recommended Reading