2 Kings 9:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwyliwr oedd yn sefyll ar y tŵr yn Jesreel, ac a ganfu fintai Jehu pan oedd efe yn dyfod, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled mintai. A Joram a ddywedodd, Cymer ŵr march, ac anfon i'w cyfarfod hwynt, a dyweded, Ai heddwch?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gwyliwr ar ddyletswydd ar dŵr tref Jesreel. A dyma fe'n gweld Jehw a'i filwyr yn dod. Dyma fe'n gweiddi, “Dw i'n gweld milwyr yn dod!” Dyma Joram yn gorchymyn, “Anfonwch farchog allan i'w cyfarfod i ofyn ydyn nhw'n dod yn heddychlon.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd gwyliwr yn sefyll ar du373?r yn Jesreel, a gwelodd fintai Jehu yn dod, a dywedodd, "Rwy'n gweld mintai." Dywedodd Joram, "Dewis farchog, a'i anfon i'w cyfarfod, i ofyn a yw popeth yn iawn."