2 Kings 9:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gŵr march a aeth i'w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i. A'r gwyliwr a fynegodd, gan ddywedyd, Y gennad a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r marchog yn mynd i'w cyfarfod, a gofyn, “Mae'r brenin yn gofyn, ‘Ydych chi'n dod yn heddychlon?’” Dyma Jehw yn ateb, “Dim o dy fusnes di! Dilyn di fi.” A dyma'r gwyliwr yn Jesreel yn dweud, “Aeth y marchog atyn nhw, ond dydy e ddim yn dod yn ôl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe aeth marchog i'w cyfarfod a dweud, "Fel hyn y mae'r brenin yn gofyn; 'A yw popeth yn iawn?'" Ac meddai Jehu, "Pa wahaniaeth i ti a yw popeth yn iawn? Tyrd i'm canlyn." Cyhoeddodd y gwyliwr, "Y mae'r negesydd wedi cyrraedd atynt, ond nid yw'n dod yn l."