2 Kings 9:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna efe a anfonodd yr ail ŵr march, ac efe a ddaeth atynt hwy, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Joram yn anfon ail farchog. Aeth hwnnw atyn nhw a gofyn, “Mae'r brenin yn gofyn, ‘Ydych chi'n dod yn heddychlon?’” A dyma Jehw yn ateb eto, “Dim o dy fusnes di! Dilyn di fi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna anfonwyd ail farchog, a phan gyrhaeddodd atynt, dywedodd, "Fel hyn y dywed y brenin; 'A yw popeth yn iawn?" Atebodd Jehu, "Pa wahaniaeth i ti a yw popeth yn iawn? Tyrd i'm canlyn."