2 Kings 9:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Joram a ddywedodd, Rhwym y cerbyd. Yntau a rwymodd ei gerbyd ef. A Joram brenin Israel a aeth allan, ac Ahaseia brenin Jwda, pob un yn ei gerbyd, a hwy a aethant yn erbyn Jehu, a chyfarfuant ag ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Joram yn dweud, “Gwnewch y cerbyd yn barod i mi.” Pan oedden nhw wedi gwneud hynny, dyma Joram, brenin Israel, ac Ahaseia, brenin Jwda, yn mynd allan yn eu cerbydau eu hunain i gyfarfod Jehw. Dyma nhw'n cwrdd ar y darn o dir oedd yn arfer perthyn i Naboth o Jesreel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Joram, "Cyplwch fy ngherbyd." Ac wedi iddynt ei gyplu, aeth Joram brenin Israel ac Ahaseia brenin Jwda allan bob un yn ei gerbyd, i gyfarfod Jehu; a chawsant ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad.