2 Kings 9:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jehu a ddywedodd wrth Bidcar ei dywysog, Cymer, bwrw ef i randir maes Naboth y Jesreeliad: canys cofia pan oeddem ni, mi a thi, yn marchogaeth ynghyd ein dau ar ôl Ahab ei dad ef, roddi o'r ARGLWYDD arno ef y baich hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma Jehw yn dweud wrth Bidcar, ei is-gapten, “Cymer y corff a'i daflu ar y darn tir oedd yn arfer perthyn i Naboth o Jesreel. Wyt ti'n cofio? Pan oedd y ddau ohonon ni'n gwasanaethu Ahab ei dad, roedd yr ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyn yn ei erbyn:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Jehu wrth Bidcar ei is-gapten, "Gafael ynddo a bwrw ef i randir Naboth y Jesreeliad; oblegid rwyf fi a thithau'n cofio, pan oeddem yn cydyrru cerbyd ar l ei dad Ahab, fod yr ARGLWYDD wedi cyhoeddi'r oracl hwn yn ei erbyn: