2 Kings 9:32 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddyrchafodd ei wyneb at y ffenestr, ac a ddywedodd, Pwy sydd gyda mi, pwy? A dau neu dri o'r ystafellyddion a edrychasant arno ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Jehw yn edrych i fyny a gofyn, “Pwy sydd ar fy ochr i? Rhywun?” A dyma ddau neu dri o swyddogion y palas yn edrych i lawr arno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd yntau ei olwg at y ffenestr a gofyn, "Pwy sydd o'm plaid? Pwy?" Edrychodd dau neu dri o'r gweision allan, ac meddai Jehu, "Taflwch hi i lawr."