2 Kings 9:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd, Teflwch hi i lawr. A hwy a'i taflasant hi i lawr; a thaenellwyd peth o'i gwaed hi ar y pared, ac ar y meirch: ac efe a'i mathrodd hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Taflwch hi allan o'r ffenest,” meddai Jehw. A dyma nhw'n ei thaflu hi i lawr. Pan darodd hi'r llawr dyma'i gwaed yn sblasio ar y wal ac ar y ceffylau, a dyma Jehw yn gyrru ei gerbyd drosti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Taflasant hi i lawr, a thasgodd peth o'i gwaed ar y pared ac ar y meirch, a mathrwyd hithau.