2 Kings 9:34 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth efe i mewn, efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a ddywedodd, Edrychwch am y wraig felltigedig honno, a chleddwch hi; canys merch brenin ydyw hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth i mewn a cael pryd o fwyd. Yna dyma Jehw yn dweud, “Ewch i gladdu corff y ddynes ddiawledig yna. Roedd hi yn ferch i frenin, wedi'r cwbl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo fwyta ac yfed, dywedodd, "Gofalwch am gladdu'r ddynes felltigedig yna, oblegid merch i frenin oedd hi."