2 Kings 9:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gyfododd, ac a aeth i mewn i'r tŷ: ac yntau a dywalltodd yr olew ar ei ben ef, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Myfi a'th eneiniais di yn frenin ar bobl yr ARGLWYDD, sef ar Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Jehw yn codi a mynd i mewn i'r tŷ. Yna dyma'r proffwyd yn tywallt yr olew ar ei ben a dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel, pobl yr ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd a mynd i mewn; yna tywalltodd y llanc yr olew ar ben Jehu, a dweud wrtho, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel, pobl yr ARGLWYDD.