2 Peter 1:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Or achos hwn, fym rodyr, byddwch yn vwy diwid y wneuthyr ych galwedigaeth ach ethelodigaeth yn sicir: can ys o gwnewchi hyn, ni lithrwchi byth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, frodyr, byddwch mwy diwyd i wneuthur yn ddiymmod eich galwad chwi a’ ch etholedigaeth; canys os y pethau hyn a wnewch, ni thripiwch byth;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny’n fwy, frodyr, byddwch ddyfal i wneuthur yn sicr eich galwad a’ch etholedigaeth, canys wrth wneuthur y pethau hyn ni lithrwch ddim byth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd paham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn sicr: canys, tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch eich gorau glas i wneud yn hollol siŵr fod Duw wir wedi eich galw chi a'ch dewis chi. Dych chi'n siŵr o gyrraedd y nod os gwnewch chi'r pethau hyn,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyna pam, gyfeillion, y dylech ymdrechu'n fwy byth i wneud eich galwad a'ch etholedigaeth yn sicr. Oherwydd os gwnewch hyn, ni lithrwch byth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd paham, frodyr, byddwch yn fwy eiddgar i wneuthur eich galwad a'ch etholedigaeth yn sicr; canys os gwnewch y pethau hyn, ni thripiwch byth;