2 Peter 1:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yn y modd hwn digonawl yð ymgleðir chwi, o fforddiat i dragwyddol teyrnas eyn Arglwydd an Achubwr Iesu Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys felly yn orlawn yr arlwyir i chwi y mynediad i mewn i dragywyddol deyrnas ein Harglwydd ac Iachawdwr Iesu Grist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys felly’n helaeth y darperir i chwi fynediad i mewn i deyrnas dragwyddol ein Harglwydd ni a’n Hachubwr Iesu Grist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a chewch groeso mawr i mewn i ble mae ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist yn teyrnasu am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly y rhydd Duw ichwi, o'i haelioni, fynediad i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Gwaredwr, Iesu Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys felly y darperir i chwi yn gyfoethog y mynediad i Deyrnas dragwyddol ein Harglwydd ac Iachawdwr Iesu Grist.