2 Peter 1:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Or achos hwn, nid esceuleusaf i ych coffhau chwi fyth am y pethau hyn, cyd bochi cyfarwydd, a’ siccir yn y cyndrychol wirionedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O herwydd paham y byddaf yn wastad ar fedr eich coffau am y pethau hyn, er gwybod o honoch hwynt a’ch sefydlu yn y gwirionedd y sydd gyda chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oherwydd paham bwriadaf eich atgoffa’n wastad am y pethau hyn, er gwybod ohonoch ac er eich sefydlu yn y gwirionedd y sydd gyda chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd paham nid esgeulusaf eich coffau bob amser am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod, ac wedi eich sicrhau yn y gwirionedd presennol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dw i'n mynd i ddal ati drwy'r adeg i'ch atgoffa chi o'r pethau yma. Dych chi'n eu gwybod eisoes, ac mae gynnoch chi afael cadarn yn y gwirionedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, rwy'n bwriadu eich atgoffa'n wastad am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod, ac wedi eich sefydlu'n gadarn yn y gwirionedd sydd gennych.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd paham, byddaf barod bob amser i'ch coffhâu am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod ac wedi eich sefydlu yn y gwirionedd sydd gennych.