2 Peter 1:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can y mod i yn gwybod fod yn gyfagos yr amser y dodaf heibio y tabernacl hwn, megis ac y dangoses eyn h Arglwydd Iesu Christ i mi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan wybod mai buan yw dadwisgiad fy nhabernacl, fel y bu i’n Harglwydd Iesu Grist amlygu i mi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a mi’n gwybod y bwrir heibio’r babell hon yn fuan, megis hefyd yr amlygodd ein Harglwydd ni Iesu Grist i ni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan wybod y bydd i mi ar frys roddi fy nhabernacl hwn heibio, megis ag yr hysbysodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gwybod fod fy amser i yn y corff yma ar fin dod i ben. Mae'r Arglwydd Iesu Grist wedi dangos hynny'n ddigon clir i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwn y bydd yn rhaid i mi roi fy mhabell heibio yn fuan, fel y mae ein Harglwydd Iesu Grist, yn wir, wedi gwneud yn eglur imi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan wybod fod gosodiad heibio fy mhabell yn dyfod yn fuan, megys hefyd yr amlygodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi.