2 Peter 1:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys nid chwedlay dichellus a ganlynhasom ni pan oeddem yn manegi ywch rinwedd, a devodiad ein h Arglwydd Iesu Christ, eythr an llygaid y gwelsom eu fowredd ef:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys nid chwedlau o wneuthuriad celfyddgar a ddilynasom wrth hyspysu i chwi allu a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi bod yn llygad-dystion o’i fawredd Ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys nid trwy lynu wrth chwedlau cywrain yr hysbysasom i chwi nerth ein Harglwydd ni Iesu Grist a’i ddyfodiad, eithr wedi dyfod yn llygad-dystion o’i fawrhydi ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys, yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi gweled ei fawredd ef â'n llygaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim dilyn rhyw straeon dychmygol clyfar oedden ni pan ddwedon ni wrthoch chi fod yr Arglwydd Iesu Grist yn mynd i ddod yn ôl eto gyda grym. Dim o gwbl! Roedden ni'n llygad-dystion i'w fawrhydi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid dilyn chwedlau wedi eu dyfeisio'n gyfrwys yr oeddem wrth hysbysu i chwi allu ein Harglwydd Iesu Grist a'i ddyfodiad; yn hytrach, yr oeddem wedi ei weld 'n llygaid ein hunain yn ei fawredd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nid gan ddylyn chwedlau wedi eu cyfrwys ddyfeisio yr hyspysasom i chwi allu a Dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr gan fod yn llygad‐dystion o'i Fawrhydi.