2 Peter 1:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ef a dd erbyniasai can Ddyw tad anrrydedd a gogoniant, pan ðeuawdd cyfryw lef atto ef o ddiwrth y dirfawr ’ogoniant, Hwn yw’r mab credigol mau fi, yn yr hwn im boddlonir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys wedi derbyn o Hono gan Dduw Dad anrhydedd a gogoniant, llef wedi ei dwyn Atto, o’r fath hon, gan y Mawr-ragorol Ogoniant, “Hwn yw Fy Mab anwyl, yn yr Hwn Myfi a’m boddlonwyd;”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys derbyniodd oddi wrth Dduw Dad anrhydedd a gogoniant, pan ddaeth ato’r fath lef oddi wrth y mawr-ragorol ogoniant: “Fy mab, fy anwylyd yw hwn, yr ymddigrifais ynddo”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr-ragorol Ogoniant, Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y'm bodlonwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwelon ni e'n cael ei anrhydeddu a'i ganmol gan Dduw y Tad. Daeth llais oddi wrth y Gogoniant Mawr yn dweud, “Fy mab annwyl i ydy hwn; mae e wedi fy mhlesio i'n llwyr”.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddem yno pan roddwyd iddo anrhydedd a gogoniant gan Dduw Dad, pan ddaeth y llais ato o'r Gogoniant goruchel yn dweud: "Hwn yw fy Mab, fy Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dâd anrhydedd a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr‐ragorol Ogoniant, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd.