2 Peter 1:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y ddym ni hefyd a gair cadarnaf yproffwydi cenym, yr hwn da i gweithiwch o ddarbod am dano, megis am oleuni yn llew r chy mewn lle towyll, hyd oni wowrio’r dydd, ac yni chotto seren ddydd yn ych calonay.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac y mae genym, yn fwy diymmod, y Prophwydol air, yr hwn da y gwnewch wrth ddal arno, fel ar lusern yn llewyrchu mewn lle tywyll, nes i’r dydd wawrio,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac y mae gennym yn sicrach air y proffwydi, y gwnewch yn dda drwy ddal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd a chodi o’r seren fore yn eich calonnau chwi;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae gennym air sicrach y proffwydi; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio'r dydd, ac oni chodo'r seren ddydd yn eich calonnau chwi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dŷn ni'n rhoi pwys mawr ar neges y proffwydi hefyd. Byddai'n beth da i chithau dalu sylw i'r neges honno. Mae fel lamp sy'n goleuo rhywle tywyll nes i'r dydd wawrio ac i ‛seren y bore‛ godi i oleuo eich meddyliau chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae gennym hefyd genadwri gwbl ddibynadwy y proffwydi; a pheth da fydd i chwi roi sylw iddi, gan ei bod fel cannwyll yn disgleirio mewn lle tywyll, hyd nes y bydd y Dydd yn gwawrio a seren y bore yn codi i lewyrchu yn eich calonnau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae gennym air prophwydoliaeth yr hwn sydd sicrach fyth; yr hwn da y gwnewch wrth ddal arno, megys ar lusern yn disgleirio mewn lle budr, hyd oni wawrio y Dydd, ac oni chyfodo y Seren Ddydd yn eich calonnau;