2 Peter 1:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys nid trwy wollys dyn y doeth gynt proffedoliaeth: eithr dynion santaidd Dyw a ddoydasont megis y cynhyrchwyd hwynt can yr ysbryd glan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys nid trwy ewyllys dyn y dygpwyd prophwydoliaeth erioed, eithr a’r Yspryd Glân yn eu dwyn, llefaru oddiwrth Dduw a wnaeth dynion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yn dyfod dan ddehongliad priod. Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth proffwydoliaeth gynt, ond dynion a lefarodd oddi wrth Dduw dan ddylanwad ysgubol yr Ysbryd Glân.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth; eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim y proffwyd ei hun oedd yn penderfynu ei fod am ddweud rhywbeth. Er mai pobl oedd yn gwneud y siarad, yr Ysbryd Glân oedd yn eu cymell nhw i siarad. Roedden nhw'n dweud beth oedd Duw am iddyn nhw ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn fater o ddehongliad personol, oherwydd ni ddaeth yr un broffwydoliaeth erioed trwy ewyllys ddynol; pobl oeddent a lefarodd air oddi wrth Dduw wrth gael eu hysgogi gan yr Ysbryd Gln.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth prophwydoliaeth erioed, eithr dynion oddiwrth Dduw a lefarasant, gan gael eu cario ymlaen gan yr Yspryd Glân.