2 Peter 1:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Megis y rroddes y ddywiol allu ef i ni bob peth am a berthynant ir bowyd a’ gwaredd, trwy y ednabyddieth ef rrwn an galwodd ni y ogoniant a rrinwedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan mai pob peth y bu i’w Ddwyfol Allu ei roddi i ni, y rhai sydd tua bywyd a duwioldeb, trwy adnabyddiaeth yr Hwn a’n galwodd trwy Ei ogoniant Ei hun a’i rinwedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn gymaint ag y rhoes ei ddwyfol allu ef inni bopeth tuag at fywyd a duwioldeb, trwy adnabyddiaeth o’r hwn a’n galwodd ni trwy ei ogoniant ef ei hun a’i rinwedd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy ei adnabod ef yr hwn a'n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth ddod i nabod Iesu Grist yn well, mae ei nerth dwyfol yn rhoi i ni bopeth sydd ei angen i fyw fel mae Duw eisiau i ni fyw. Mae wedi'n galw ni i berthynas gydag e'i hun, i ni rannu ei ysblander a phrofi ei ddaioni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae ei allu dwyfol wedi rhoi i ni bob peth sy'n angenrheidiol i fywyd a duwioldeb trwy ein hadnabyddiaeth o'r hwn a'n galwodd 'i weithred ogoneddus a rhagorol ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan weled fod ei Ddwyfol allu wedi rhad‐roddi i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy adnabyddiaeth o honno ef, yr hwn a'n galwodd trwy ei ogoniant a'i rinwedd ei hun;