2 Peter 1:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gan hyn, ys ef roddi yni addaweidion rragorfawr gorchestol, val y gellech trwy rreini fod yn gyfrannoc o ddywiol anian, wedi diainc or llwgwr, sy yn y byd trwy trachwant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
trwy y rhai y gwerthfawr a thra-mawr addewidion a roddes efe i ni, fel trwy y rhai hyn yr eloch yn gyfrannogion o’r Ddwyfol anian, wedi diangc oddiwrth y llygredigaeth y sydd yn y byd trwy chwant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a rhoddi inni drwy’r rhain addewidion gwerthfawr a mawr iawn, er mwyn i chwi drwy’r rhai hyn ddyfod yn gyfrannog o anian ddwyfol, wedi dianc rhag y llygredd y sydd yn y byd trwy drachwant — ie,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy'r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr; fel trwy'r rhai hyn y byddech gyfranogion o'r duwiol anian, wedi dianc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A thrwy hyn i gyd mae wedi addo cymaint o bethau mawr a gwerthfawr i ni. Y pethau yma sy'n eich galluogi chi i rannu ym mywyd anfarwol y natur ddwyfol. Dych chi'n osgoi'r dirywiad moesol sydd wedi lledu drwy'r byd o ganlyniad i chwantau pechadurus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy hyn y mae ef wedi rhoi i ni addewidion gwerthfawr dros ben, er mwyn i chwi trwyddynt hwy ddianc o afael llygredigaeth y trachwant sydd yn y byd, a dod yn gyfranogion o'r natur ddwyfol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
trwy y rhai y rhoddodd efe i ni yr addewidion gwerthfawr a mawr iawn, fel trwy y rhai hyn y deloch yn gyfranogion o'r Ddwyfol anian, wedi diangc oddiwrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant.