2 Peter 1:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys os byddwchwi ar pethau hyn cennwch, ac yn amyl hwynt, peri a wnant na boch na segur na diffrwyth yngwybodaeth eyn Arglwydd Iesu Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys a’r pethau hyn genych, ac yn aml hwynt, gwnant chwi nac yn segur nac yn ddiffrwyth yn adnabyddiaeth ein Harglwydd Iesu Grist:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys â’r pethau hyn yn gynhysgaeth i chwi ac yn amlhau, y maent yn peri nad ydych yn segur nac ychwaith yn ddiffrwyth mewn adnabyddiaeth o’n Harglwydd ni Iesu Grist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os yw'r pethau hyn gennych, ac yn aml hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur na diffrwyth yng ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy'r pethau yma i'w gweld yn eich bywyd chi fwyfwy bob dydd, byddwch chi'n tyfu ac yn aeddfedu fel pobl sy'n nabod ein Harglwydd Iesu Grist.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd os yw'r rhain gennych, ac ar gynnydd, byddant yn peri nad diog a diffrwyth fyddwch yn eich adnabyddiaeth o'n Harglwydd Iesu Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys os yw y pethau hyn yn eiddo i chwi ac yn cynhyddu, gwnant chwi na byddoch na segur na diffrwyth er dyfod i adnabyddiaeth o'n Harglwydd Iesu Grist.