2 Peter 2:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
EIthr neur fuont gau bropwydi ym plith y bobl, mal y bydd, yn ych plith chwithay athrawon ffeilsion, rrain yn ddirgel a ddygant y mewn etholffyrdd enbydus, ie yn gwadu yr Arglwyð rwn y prynnoð hwynt, ac yn tynnu arnynt i hunain ddihenydd buan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond yr oedd hefyd au-brophwydi ymhlith y bobl, fel hefyd yn eich plith chwi y bydd gau-ddysgawdwyr, y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresiau dinystriol, hyd yn oed y Meistr a’u prynodd yn cael Ei wadu ganddynt,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond bu proffwydi gau hefyd ymhlith y bobl, megis y bydd gau-athrawon yn eich plith chwithau, y rhai’n ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, gan wadu hyd yn oed y Meistr a’u prynodd hwynt, a chan ddwyn arnynt eu hunain ddinistr buan;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr bu gau broffwydi hefyd ymhlith y bobl, megis ag y bydd gau athrawon yn eich plith chwithau; y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, a chan wadu'r Arglwydd yr hwn a'u prynodd hwynt, ydynt yn tynnu arnynt eu hunain ddinistr buan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd proffwydi ffals hefyd yn Israel bryd hynny, a bydd athrawon ffals yn codi yn eich plith chithau. Byddan nhw'n sleifio i mewn gyda heresïau sy'n arwain i ddinistr. A hyd yn oed yn mynd mor bell a gwadu awdurdod y Meistr brynodd ryddid iddyn nhw oddi wrth bechod! Byddan nhw'n dwyn dinistr arnyn nhw eu hunain yn fuan iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymddangosodd hefyd broffwydi gau ymhlith pobl Israel, ac yn yr un modd bydd athrawon gau yn eich plith chwithau, rhai a fydd yn dwyn i mewn yn llechwraidd heresau dinistriol, yn gwadu'r Meistr a'u prynodd, ac yn dwyn arnynt eu hunain ddistryw buan.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr bu gau‐brophwydi hefyd ym mhlith y bobl, fel y bydd gau‐athrawon hefyd yn eich plith chwi, yn rai a ddygant i mewn heresiau dinystriol, gan wadu hyd yn nod y Meistr, yr hwn a'u prynodd hwynt, gan ddwyn arnynt eu hunain ddinystr sydyn.