2 Peter 2:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn bēnaf y rrai sy yn rrodio ar ol y cnawd, mewn trachwant anlendid, ac yn distyru audurdod ac wynt yn rryvygus, ac yn rrac ymgymryd, ac ny rusiant dirmugu y rrai sy mewn goruchel anrrydedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yn bennaf y rhai sy’n rhodio ar ol y cnawd yn chwant halogrwydd, ac yn dirmygu llywodraeth; rhyfygusion, cyndyniaid; pan urddas a gablant, ni chrynant;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac yn arbennig y rhai sy’n rhodio ar ôl y cnawd, ym mlys aflendid, ac yn diystyru arglwyddiaeth. Gwŷr haerllug, trahaus, nid arswydant pan gablont bwerau gogoneddus,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn diystyru llywodraeth. Rhyfygus ydynt, cyndyn; nid ydynt yn arswydo cablu urddas:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Duw yn arbennig o llym wrth gosbi'r rhai hynny sy'n gwneud dim ond dilyn eu chwantau. Pobl sy'n gadael i'w natur bechadurus lygredig reoli eu bywydau, ac sy'n wfftio awdurdod yr Arglwydd. Maen nhw mor haerllug ac mor siŵr ohonyn nhw eu hunain does ganddyn nhw ddim ofn enllibio'r diafol a'i angylion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yn arbennig felly y rhai sy'n byw i borthi chwantau aflan y cnawd, ac yn diystyru awdurdod. Y maent yn rhyfygus a thrahaus, ac yn sarhau'r bodau nefol yn gwbl eofn,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ol y cnawd yn chwant halogrwydd, gan ddirmygu rheolaeth: dynion beiddgar, hunangar, nid ydynt yn arswydo cablu urddasolion;