2 Peter 2:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr y rrain megis enifeiliaid anrrysymol, rrain a ymborthir hwynt drwy anianol ymgyrch a wnaythbwyd yw dala, ac yw difa, a ’oganant y pethau ni wyddont o iwrthynt, ac yw dihenydd y deuant trwy y llygredigaeth y hunain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond y rhai hyn, fel anifeiliaid direswm wedi eu geni wrth naturiaeth er dalfa a distryw, yn cablu yn y pethau na wyddant, yn eu distryw y’u distrywir, yn cael anghyfiawnder yn wobr anghyfiawnder;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y rhain, megis creaduriaid direswm, wedi eu creu wrth natur i’w dal a’u dinistrio, trwy gablu pethau na wyddant ddim oddi wrthynt, a ddinistrir hefyd yn eu dinistr hwynt,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y rhai hyn, megis anifeiliaid anrhesymol anianol, y rhai a wnaed i'w dal ac i'w difetha, a gablant y pethau ni wyddant oddi wrthynt, ac a ddifethir yn eu llygredigaeth eu hunain;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'r bobl yma fel anifeiliaid direswm yn dilyn eu greddfau. Maen nhw'n enllibio pethau dŷn nhw ddim yn eu deall. A byddan nhw hefyd yn cael eu dal a'u dinistrio yn y diwedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae'r bobl hyn yn siarad yn sarhaus am bethau nad ydynt yn eu deall; y maent fel anifeiliaid direswm sydd, yn nhrefn natur, wedi eu geni i'w dal a'u difetha; ac fel y difethir anifeiliaid, fe'u difethir hwythau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond y rhai hyn, megys creaduriaid direswm, wedi eu geni yn reddfol er cael eu dal a'u distrywio, gan gablu yn y pethau na wyddant, yn eu distryw hwy a ddinystrir,